“Book Descriptions: Mae Rachel Ross yn treulio llawer o'i hamser y tu allan i'r ysgol yn gofalu am ei mam, sy'n dioddef o iselder, a'i chwaer fach; ond uchafbwynt ei hwythnos yw sesiynau'r grŵp drama mae hi'n aelod ohono. Mae hi'n teimlo'n saff yno ... yn wahanol i'r ysgol lle mae hi'n cael ei bwlio o ganlyniad i'w hanabledd. Collodd Rachel un o'i choesau ar ôl dioddef o lid yr ymennydd pan oedd yn blentyn bach... ond fyddai neb ddim callach o hynny gan ei bod yn hyderus a streetwise (ac yn gwisgo fel goth). Ond mae'r hyder hwnnw'n cael ei brofi i'r eithaf pan mae'n cyfarfod perchennog clwb nos lleol, ac yn darganfod cyfrinach deuluol all newid ei bywyd am byth.” DRIVE